Y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Angladdau a Phrofedigaeth
Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol
2023
Aelodau’r Grŵp
Aelodau o'r Senedd
· Mark Isherwood AS
· Mike Hedges AS
· Jane Dodds AS
· Russell George AS
· Darren Millar AS
· Llyr Gruffydd AS
· Altaf Hussain AS
Aelodau allanol
Mae aelodaeth y Grŵp Trawsbleidiol wedi ehangu i gynnwys ystod eang o sefydliadau sy’n canolbwyntio ar brofedigaeth a chynrychiolwyr y proffesiwn angladdau. Mae’r rhain yn cynnwys:
· Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau
· Cymdeithas Trefnwyr Angladdau Perthynol ac Annibynnol
· Golden Charter
· Cyngor Dinas Caerdydd
· Cruse Cymru
· 2 Wish
· O’Driscoll & Daughters
· Marie Curie
· Eglwysi ynghyd yng Nghymru
· PR Blatchly & Son
· White Rose Funerals
· Tovey and Sons
· Gwilym Price
· Cyngor Mwslimiaid Cymru
Deiliaid swyddi
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) - etholwyd ym mis Mehefin 2022
Deborah Smith, Wordsmith Communication UK Limited (Ysgrifennydd) - etholwyd ym mis Mehefin 2022
Cyfarfodydd a gynhaliwyd gan y Grŵp
Mae’r Grŵp Trawsbleidiol wedi cyfarfod deirgwaith yn y cyfnod rhwng mis Mehefin 2022 a mis Gorffennaf 2023.
Gellir crynhoi’r cyfarfodydd hyn fel a ganlyn:
10 Mehefin 2022
Etholwyd Mark Isherwood yn Gadeirydd y Grŵp ac etholwyd Deborah Smith o Wordsmith Communication yn Ysgrifennydd. Mabwysiadwyd Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol drafft gan y Grŵp, a gafodd eu dosbarthu ymlaen llaw.
Anerchwyd y cyfarfod gan John Withington, Cyfarwyddwr Rheoleiddio, y Sefydliad Safonau Angladdau Annibynnol. Cafwyd trafodaeth ar ailddefnyddio beddau, yn dilyn cyfarfod y Grŵp Hollbleidiol ar gyfer Angladdau a Phrofedigaeth yn San Steffan, a fynychwyd gan Mark Isherwood AS ar ran y Grŵp Trawsbleidiol. Penderfynodd y Grŵp ystyried safbwyntiau yng Nghymru drwy arolwg, er mwyn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu safbwynt polisi.
Cafodd y Grŵp hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod a gynhaliwyd gyda Chyngor Mwslimiaid Cymru, i drafod mynediad at gymorth profedigaeth gan gymunedau ffydd a chred fel rhan o Fframwaith Profedigaeth Llywodraeth Cymru, gyda ffocws penodol ar gymunedau Mwslimaidd.
Rhoddwyd diweddariad i'r Grŵp hefyd ar y broses sydd ar fin digwydd o gyflwyno rheoliadau ar gyfer gwerthu cynlluniau angladd a methiant cynlluniau angladd Safe Hands. Penderfynodd y grŵp ysgrifennu at Weinidog y Trysorlys, John Glen, ynghylch diogelu defnyddwyr ac anfonwyd llythyr fel y dylid.
24 Tachwedd 2022
Yng nghyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y Grŵp ers y pandemig, cafwyd cyflwyniad ar y prosiect ar ailddefnyddio beddau yng Nghymru, a nododd y bu 25 o ymatebion i’r arolwg, gan gynnwys sefydliadau ffydd, trefnwyr angladdau, cymdeithasau masnach, awdurdodau lleol, darparwr gofal iechyd lliniarol, grŵp allgymorth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, sefydliad cymorth profedigaeth, ac unigolyn mewn profedigaeth/cyn-gyflenwr i'r sector.
Penderfynwyd y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud ar y mater hwn a byddai datganiad sefyllfa ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol yn cael ei ddrafftio.
Bu’r cyfarfod hefyd yn ystyried y Llwybr Profedigaeth yn dilyn colli plentyn a’r gwaith i dynnu sylw Llywodraeth Cymru at y mater drwy ddeiseb, sydd wedi arwain at gynnwys y pwnc yn y Fframwaith Profedigaeth Drafft ac un o’r grwpiau llywio fframwaith, sydd wedi arwain at ddatblygu llwybr penodol ar ôl colli plentyn
Diweddarwyd y cyfarfod ar Ymchwiliad Fuller i ofalu am bobl mewn profedigaeth, yn dilyn troseddau’r trydanwr ysbyty, David Fuller. Nodwyd y bydd yr ymchwiliad, yn 2023, yn ehangu ei gwmpas o ysbyty Caint lle cyflawnwyd y troseddau i gynnwys pob lleoliad lle mae pobl sydd wedi marw yn derbyn gofal - gan gynnwys cartrefi angladd a lleoliadau cymunedol eraill.
Cafwyd diweddariadau hefyd ar lansio adroddiad y Comisiwn Profedigaeth: 'Bereavement is Everyone’s Business' gyda ffocws penodol ar y camau gweithredu a argymhellir ar gyfer Cymru a hefyd ar y Datganiad Ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes.
Penderfynodd y Grŵp barhau i gyfuno cyfarfodydd wyneb yn wyneb â chyfarfodydd hybrid a chyfarfodydd cwbl rithwir er mwyn darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl i aelodau'r Grŵp.
27 Mawrth 2023
Yng nghyfarfod cyntaf 2023, tynnodd Mark Isherwood AS sylw’r Grŵp at ymateb Andrew Griffith AS (Senedd y DU) yn dilyn y llythyr a anfonwyd at y Gwir Anrhydeddus John Glen AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, mewn perthynas â rheoleiddio cynlluniau angladdau a defnyddwyr sy’n agored i niwed, ar ôl y cyfarfod diwethaf.
Ar yr un pwnc, cafwyd diweddariad byr ar gyfarfodydd sy’n mynd rhagddynt i ffurfio corff cynrychioliadol newydd ar gyfer darparwyr cynlluniau angladdau, a fyddai’n ymgysylltu â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y mater hwn.
Cafodd y Grŵp gyflwyniad gan Gyngor Mwslimiaid Cymru ar ganllawiau drafft i lunwyr polisi ar ailddefnyddio beddau a’r ffydd Fwslimaidd fel rhan o waith parhaus y Grŵp i ymchwilio i ailddefnyddio beddau yng Nghymru.
Cafwyd trafodaeth hefyd ar y defnydd o bost-mortemau digidol yn y DU a diweddariad ar adolygiad Comisiwn y Gyfraith o Gyfraith Claddu ac Amlosgi a’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2), sy’n ceisio sicrhau’r syniad o ailgyflwyno’r broses o gofrestru marwolaethau o bell yng Nghymru a Lloegr.
Yn olaf, cafwyd diweddariad ar adroddiad, gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol, yn argymell ailwampio cymorth profedigaeth yn y DU yn sgil COVID-19, ar ôl nodi bylchau hirsefydlog yn y cymorth i bobl mewn profedigaeth sydd wedi’u gwaethygu gan y pandemig.
Penderfynwyd cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb ar y cyd o’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Angladdau a Phrofedigaeth a’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Hosbisau a Gofal Lliniarol, yn Nhŷ Hywel, yn ystod hydref 2023.
Cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda lobiwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol neu elusennol
Yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Gorffennaf 2023 cyfarfu’r Grŵp â’r sefydliadau a ganlyn, neu estynnwyd gwahoddiad am dystiolaeth ganddynt:
· Y Sefydliad Safonau Angladdau Annibynnol
· Cyngor Mwslimiaid Cymru
· Mae sefydliadau elusennol, grwpiau gwirfoddol, a sefydliadau cynrychioliadol (gan gynnwys y rhai a restrir yn adran gyntaf yr adroddiad hwn) yn mynychu cyfarfodydd Grŵp Trawsbleidiol.
Datganiad Ariannol Blynyddol
Treuliau
Yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin 2022 a mis Gorffennaf 2023 aethpwyd i’r treuliau a ganlyn:
· Ffioedd o £2,562.75 am wasanaethau ysgrifenyddol, wedi'u talu i Wordsmith Communication UK Limited a'u hariannu gan Gymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau.
· £168.65 mewn costau teithio a llety ar gyfer Deborah Smith, Wordsmith Communication UK Limited ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd 2022.
· £17.46 mewn gwasanaethau te/coffi a ddarparwyd gan Compass Group (ar ran Tŷ Hywel), wedi’i dalu gan Wordsmith Communication UK Limited a’i ad-dalu ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd 2022.
Buddion
Mae costau ysgrifenyddiaeth a chyfarfodydd grŵp yn cael eu hariannu gan Gymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau.
Lletygarwch a dderbyniwyd
Dim i'w nodi.